Tuesday, 24 November 2009

Yn y Dechreuad

Testing, testing, un, dau, tri...

Sut mae dechrau blog, dwedwch?

Trwy sôn rhywfaint amdana' i fy hun? Diflas braidd, mae'n siŵr. Debyg mai rhan o hwyl sgwennu yw gadael i bytiau bach o wybodaeth lifo bob yn ddiferyn, heb ddweud gormod mewn un tro ond heb roi cyfle i'r peth sychu'n grimp, chwaith.

Neu beth am luchio'n hun yn syth i mewn i'r sgwennu, a chynllunio rhyw gampwaith llenyddol i ddal sylw unrhyw un sy'n digwydd taro golwg arno? Hmm... Dwi ddim yn siŵr am hynna chwaith. Mae gofyn medru sgwennu campweithiau cyn llwyddo efo'r cynllun hwnnw!

Efallai y byddai sgwennu fel petawn i'n sgwennu mewn hen ddyddiadur papur 'traddodiadol' yn syniad gwell, heb boeni am grefft nac am gynulleidfa. Ond does dim ots beth yw prif bwynt sgwennu blog, mae'r ffaith bod y cyfan i'w weld ar y we - boed y 'cyfan' hwnnw'n cael ei sgrechian yn uchel a llawn hyder, neu'n dod o gyfeiriad dieithryn dienw - yn siŵr o effeithio'r sgwennu i raddau.

Efallai y gadawa' i'r broblem honno tan rhywdro eto...